16 – 22 Mai
Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ymgyrch sy’n cael ei chynnal gan y Gymdeithas Alzheimer’s gyda’r nod o annog pobl i ‘weithredu ar ddementia’. Y thema ar gyfer yr ymgyrch eleni yw diagnosis.
Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s am annog y rhai a allai fod yn byw gyda dementia heb ddiagnosis i droi at y gymdeithas am arweiniad a chymorth.
Ewch i wefan y Gymdeithas Alzheimer’s am ragor o wybodaeth ac i gael gafael ar gymorth.
Ewch i wefan Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd i weld pa ddigwyddiadau sy’n digwydd yng Nghaerdydd ar gyfer Wythnos Gweithredu ar Ddementia.
Cymerwch olwg ar grwpiau, gweithgareddau a digwyddiadau eraill sy’n Deall Dementia ar draws y ddinas.