Neidio i’r cynnwys

Dewch i fod yn Gennad Gwirfoddol Sy’n Deall Dementia

Centre for Ageing Better Images - Pictures Peter Kindersley

Pwrpas y rôl a pham rydyn ni eich angen chi:

Rydym angen i chi helpu a chefnogi siopau, busnesau, a sefydliadau lleol ar draws y ddinas i ddod yn rhai sy’n Deall Dementia. Ceisiwch eu hannog i gymryd camau i fod yn fwy croesawgar, hygyrch a darparu gwell cefnogaeth i’w cleientiaid sy’n byw gyda dementia. Gall sefydliadau wneud gwahaniaeth mawr; nhw sydd ar y rheng flaen wrth ryngweithio â phobl sy’n byw gyda dementia yng Nghaerdydd.

 

Yr hyn y byddwch yn ei wneud fel Cennad Deall Dementia:

  • Galw heibio siopau, busnesau, a sefydliadau lleol yng Nghaerdydd i’w hannog i ddod yn rhai sy’n Deall Dementia, gan esbonio’r manteision a’r pwysigrwydd
  • Helpu sefydliadau i nodi camau i ddod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia
  • Helpu sefydliadau i archwilio eu hamgylchedd ffisegol i annog newidiadau neu welliannau i ddod yn amgylcheddau sy’n Deall Dementia
  • Cefnogi sefydliadau gan roi adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar sut i gael eu cydnabod fel sefydliad sy’n Deall Dementia
  • Helpu sefydliadau i dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer’s – drwy’r logo ‘Gweithio i Ddeall Dementia’
  • Cyfeirio sefydliadau at sesiynau Ffrindiau Dementia i’w staff
  • Bwydo’n ôl unrhyw wybodaeth neu gwestiynau gan fusnesau a sefydliadau i’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr Deall Dementia.

 

Mae’r rôl wirfoddoli yn hyblyg a byddai’n addas i unrhyw un sy’n barod i gysylltu â’r gymuned ac yn angerddol dros wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Dementia.

Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei gynnig drwy roi o’u hamser. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, cewch deimlad o berthyn hefyd ac fe gewch hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth briodol.

 

Sut i wneud cais:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes gennych ddiddordeb yn y rôl Cennad Deall Dementia cysylltwch â:

Chloe Gifford – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Deall Dementia

07855980955

dealldementia@caerdydd.gov.uk

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd