Neidio i’r cynnwys

Ynghylch Caerdydd sy’n Deall Dementia

Mae Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’i gilydd i wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Dementia.

Bydd mudiad hwn annog ac yn cynorthwyo sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i ddeall dementia a chynnig gwell cymorth i bobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd.

Dewch yn Gyfaill Dementia heddiw

Adnoddau defnyddiol

Mae gan y Gymdeithas Alzheimer amrywiaeth o gyhoeddiadau a luniwyd i gefnogi a chynnig gwybodaeth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ddementia. Gallwch archebu copïau argraffedig o’r cyhoeddiadau hyn, neu gallwch eu darllen ar-lein ar wefan Cymdeithas Alzheimer.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd cynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ymarferol a chyfarwyddyd emosiynol sydd eu hangen ar ofalwyr i gefnogi eu llesiant eu hunain.

Dementia Connect ydy gwasanaeth cymorth personoledig Cymdeithas Alzheimer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, yn hawdd cael gafael arno ac mae’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth priodol, o help yn eich ardal leol i gyngor dros y ffôn ac ar-lein.

Mae Dewis Cymru yn cynnig gwybodaeth am Wasanaeth Cymorth Dementia lleol i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan unrhyw ffurf ar ddementia, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau.

Worries about your memory?

Poeni am eich cof?

Gwybodaeth a chanllawiau os ydych yn poeni am eich cof.

Darllenwch am anawsterau’r cof
Memory Lane Session Chat2

Digwyddiadau yng Nghaerdydd

Rydym wedi rhoi cyfres o wasanaethau a digwyddiadau rhithwir at ei gilydd i’ch cefnogi
Gweld ein digwyddiadau nesaf
Cardiff Memory Team

Tîm Cof Caerdydd

Dysgu sut y gall Tîm Cof Caerdydd eich cefnogi chi

Darllenwch am Dîm Cof Caerdydd

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd