Neidio i’r cynnwys

Help gyda thechnoleg

Help with technology

Beth yw Zoom?

Mae Zoom yn eich galluogi i ffonio grŵp o bobl ar fideo, i gyd ar yr un pryd, a hynny drwy eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur. Byddwch yn gallu gweld a chlywed pobl eraill o’ch grŵp, heb orfod gadael eich cartref!

Mae am ddim i’w lawrlwytho: Efallai y byddwch am ofyn i ffrindiau neu deulu eich helpu i’w lawrlwytho.

Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio os ydych wedi’ch cysylltu â’r rhyngrwyd, er enghraifft ar eich Wi-Fi gartref.

Sut mae cael Zoom?

Bydd angen i chi lawrlwytho Zoom ar eich cyfrifiadur, ffôn neu lechen. Chwiliwch am Zoom.com ar-lein a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y wefan, neu ewch i’r App Store ar eich ffôn neu lechen a chwiliwch am ‘Zoom Cloud Meetings’.

Ar ôl i chi lawrlwytho Zoom, bydd angen i chi gofrestru ar ei gyfer. Bydd angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost personol a chreu cyfrinair newydd ar gyfer eich cyfrif Zoom. Bydd angen i chi roi’r cyfrinair hwn eto wrth fewngofnodi’n hwyrach, felly gwnewch nodyn ohono a’i gadw’n ddiogel.

Sut mae defnyddio Zoom?

Gallwch ymuno â rhai o’n sesiynau ar-lein trwy Zoom. Pan fydd y grŵp ar fin dechrau, gallwch glicio’r ddolen ar wefan y digwyddiad a bydd yn agor yr app Zoom a bydd y cyfarfod yn cychwyn.

Cyngor da

  • Lawrlwythwch Zoom o leiaf y diwrnod cyn un o’r sesiynau i roi digon o amser i chi gofrestru ar ei chyfer.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn wedi’i wefru gyda digon o fatri a’i bod wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd cyn eich sesiwn grŵp.
  • Eisteddwch mewn man cyfforddus a thawel gyda digon o olau. Mae hyn er mwyn i chi, a phawb arall yn eich grŵp, weld a chlywed eich gilydd yn glir!
  • Cofiwch y bydd modd i eraill eich gweld yn ystod y cyfarfod pan fydd y camera ymlaen, a’ch clywed pan fydd y meic ymlaen. Os yw’n well gennych, gallwch ddewis diffodd eich camera a’ch meic ar gyfer y grŵp.

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd