Neidio i’r cynnwys

Llyfrau ar bresgripsiwn

Mae Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yn darparu deunydd darllen defnyddiol i bobl ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd. Dewisir y llyfrau gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd wedi byw gyda’r cyflyrau.

Cafodd y cynllun dementia ei ail-lansio ym mis Mai 2024 gyda rhestr o lyfrau hunangymorth yn seiliedig ar dystiolaeth yn ymwneud â dementia. Mae’r llyfrau wrthi’n cael eu cyfieithu i’r Gymraeg ar hyn o bryd.

Mae Darllen Yn Well ar gyfer dementia yn argymell deunyddiau darllen i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o ddementia, gan gefnogi gofalwyr pobl sydd â diagnosis o ddementia a’r rhai sy’n poeni am eu cof. Mae’r rhestr o 24 teitl yn cynnwys gwybodaeth a chyngor sydd wedi derbyn cymeradwyaeth broffesiynol yn ogystal â chymorth ac arweiniad ar sut i fyw’n dda gyda’r cyflwr. Mae’r pynciau’n cynnwys dementia a heneiddio arferol, cymorth yn dilyn diagnosis, cymorth a chyngor ymarferol i ofalwyr, profiad unigol pobl â dementia a’u perthnasau a’u gofalwyr, a gweithgareddau therapiwtig.

Mae Darllen Yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a thechnegau hunan-gymorth cam wrth gam ar gyfer rheoli cyflyrau cyffredin gan ddefnyddio llyfrau o blith 37 o deitlau wedi eu hargymell a’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd. Mae’n cwmpasu 16 o bynciau gan gynnwys gorbryder, iselder, gorfwyta mewn pyliau/bulimia nervosa, poen cronig, ffobiâu, problemau perthynas, hunan-barch, straen a phryder.

Mae casgliad llawn o’r ddwy restr ar gael ym mhob Hyb/Llyfrgell yng Nghaerdydd ac mae aelodau llyfrgell yn gallu benthyg y llyfrau yn rhad ac am ddim am 6 wythnos. Nid oes dirwyon hwyr ynghlwm wrth y benthyciadau hyn.

Drwy glicio ar glawr llyfr, bydd hynny’n mynd â chi i’r eitem ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd lle gallwch weld os yw’r llyfr ar gael ac archebu.

Ynglŷn â Dementia

Datod: Profiadau unigolion o ddementia

James Warner, Nori Graham, Delyth Roberts

Dementia: Cwestiynau Cyffredin

Tom Russ, Michael Huddleston

Be Dych Chi Wirioneddol Angen Wybod am Fywyd gyda Dementia

Karen Harrison Dening, Hilda Hayo, Christine Reddall

Byw Gyda Dementia

Byw gyda Dementia: Llawlyfr Ymarferol

Richard Coaten, Mark Hopfenbeck, Isla Parker

Gofalwyr a Theulu

Straeon Personol

I Blant

Elfed a’r Anrheg

David McKee

Y Llyfr Hel Atgofion

Louise Gooding

Y Straeon Wnaeth Nain eu Anghofio (A Sut wnes i eu Canfod Nhw)

Nadine Aisha Jassat

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd