Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gwastraff i helpu gyda phobl sy’n byw gydag anawsterau cof.

Gofyn am fin gwastraff mwy
Os ydych yn cael trafferth gyda faint o wastraff na ellir ei ailgylchu a gynhyrchir, efallai oherwydd Offer Diogelu Personol ychwanegol neu’n cael anawsterau gydag ailgylchu, efallai y gallwn gynnig bin du mwy.
Cysylltwch â Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich amgylchiadau unigol ac ystyried y ffordd orau o’ch helpu.
Negeseuon atgoffa ynghylch casgliadau gwastraff
Gallwch gofrestru i gael negeseuon atgoffa ynghylch casgliadau ailgylchu a gwastraff wedi’u hanfon atoch y diwrnod cyn eich diwrnod casglu. Gellir anfon y rhain i’ch cyfeiriad e-bost neu ar eich ffôn drwy’r Ap Cardiff Gov.
Cofrestrwch i gael negeseuon atgoffa am ailgylchu a gwastraff.
Angen help i roi bagiau a biniau allan
Os oes angen help arnoch i gasglu eich bagiau a biniau ailgylchu a gwastraff neu gadi bwyd, gallwch wneud cais am gasgliad cofnod.
Er mwyn gwneud cais am wasanaeth casgliad cofnod ffoniwch C2C ar 029 2087 2088 a byddwn yn cymryd eich manylion.
Bydd swyddog Gwastraff ac Ailgylchu yn dod i’r eiddo i asesu eich sefyllfa a thrafod eich opsiynau gyda chi.
Os ydych yn llwyddiannus byddwch yn derbyn casgliadau cofnod nes y byddwch yn gwneud cais am ddod â gwasanaeth i ben.
Gwasanaeth casgliad hylendid
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig casgliad ychwanegol ar gyfer cewynnau a gwastraff anymataliaeth.
Os ydych yn ymuno â’r gwasanaeth, gallwch ddefnyddio’r bagiau porffor a ddarperir i gael gwared ar wastraff anymataliaeth.
Bydd eich bagiau hylendid yn cael eu casglu’n wythnosol.

