Neidio i’r cynnwys

Sut gall y Tîm Cof helpu

Cardiff Memory Team

Nod y Tîm Cof yw:

  • adnabod demensia ac anhwylderau gwybyddol eraill mewn da bryd
  • sicrhau asesiad a diagnosis cynhwysfawr
  • rhoi cyngor a chymorth i gleifion a’u gofalwyr, yn enwedig y rhai â nam gwybyddol cymedrol, clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia
  • Cydweithio ag asiantaethau eraill a darparwyr gwasanaethau i gefnogi unigolion i aros mor annibynnol â phosib am mor hir â phosib
  • defnyddio cyffuriau a thriniaethau nad ydyn nhw’n gyffuriau yn y ffordd orau posibl a rheoli cyflyrau ar sail tystiolaeth

Ymweld â Chlinig Cof

Os ydych wedi cael eich cyfeirio at Glinig Cof, byddai’n ddefnyddiol i berthynas neu ffrind fynd gyda chi i helpu gydag unrhyw gwestiynau am hanes eich cefndir ac i’ch cefnogi yn ystod yr apwyntiad.  Dewch â rhestr o’ch meddyginiaethau rheolaidd, cymhorthion clyw a/neu sbectol os ydych fel arfer yn eu gwisgo.  Mae’r apwyntiad fel arfer yn para rhwng 45 munud i awr.

Yn ystod yr apwyntiad, byddwn yn cynnal rhai asesiadau i’n helpu i ddeall unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu profi. Efallai y bydd angen i chi gael profion pellach i chwilio am broblemau meddygol sylfaenol.

Bydd y tîm yn trafod diagnosis tebygol gyda chi ac yn rhoi rhywfaint o gyngor a chymorth dilynol.

Bydd y tîm yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ganfyddiadau ac, os rhoddir caniatâd, gallant roi gwybod i’ch teulu a’ch meddyg teulu.

Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth i bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol.  Gallwn ddarparu cyfieithydd i’ch helpu i gyfathrebu â ni os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf. Gallwn addasu ein hasesiadau i ddiwallu eich anghenion.

Help ar ôl ymweld â’r Clinig Cof

Os ydych wedi bod i’r Clinig Cof yn ddiweddar, gallech fod wedi cael gwybod bod gennych broblem cof, a gallech fod wedi cael cynnig cyngor i leihau’r problemau.

Mae’n bosibl eich bod wedi cael llawer o wybodaeth yn y clinig ac weithiau mae’n anodd cofio popeth sy’n cael ei ddweud wrthych chi.

Gall un o Nyrsys Arbenigol y Tîm Cof neu weithwyr cyswllt cof ymweld â chi yn eich cartref neu siarad â chi dros y ffôn i drafod pethau.

Os ydych yn poeni am unrhyw beth neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau yn y dyfodol, gallwch ffonio’r Tîm Cof a gofyn i gael siarad â rhywun am gyngor. Gallwch ffonio’r Tîm Cof ar 029 2071 6961.

Efallai bod gennych gwestiynau neu fod angen cyngor arnoch ar y canlynol:

Eich diagnosis a’ch canlyniadau prawf

Gallwch drafod gwybodaeth a roddwyd i chi yn y clinig am ddeall eich diagnosis neu’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol.

Meddyginiaeth

Os ydych wedi cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer eich cof, byddwn yn rhoi cyngor i chi ar ei chymryd ac unrhyw sgil-effeithiau posibl.  Gellir cysylltu â’r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau am feddyginiaethau neu bryderon am sgil effeithiau ar ôl dechrau triniaeth.

Cyllid a Materion Cyfreithiol

Gall y Tîm Cof eich cynghori ar fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt a chynnig cyngor ar ddiweddaru eich Ewyllys a threfnu Pŵer Atwrnai Parhaol.

Gyrru

Gallwn roi cyngor i chi ar sut i gysylltu â’r DVLA a sôn wrthyn nhw am eich problemau cof.

Grwpiau Cymorth

Mae yna nifer o sefydliadau lleol sy’n cynnal grwpiau cymorth.  Efallai yr hoffech gwrdd â phobl eraill sydd â phroblemau tebyg.   Gall y tîm helpu i gyfeirio at wasanaethau eraill a allai gefnogi unigolyn sy’n byw gyda phroblemau cof neu eu teulu a’u gofalwyr.

Defnyddio Gwasanaethau

Os ydych chi a’ch teulu yn ei chael hi’n anodd ymdopi, gallech elwa o asesiad o’ch anghenion.

Ymchwil Leol

Mae gan y Tîm Cof adran ymchwil sy’n helpu pobl â phroblemau cof i gymryd rhan mewn ymchwil os hoffech fod yn rhan o dreialon meddygol.

 

 

Cysylltwch â’r Tîm Cof ar 029 2071 6961 neu e-bostiwch memory.team@wales.nhs.uk

Lleolir y Tîm Cof yn:

Y Ganolfan Academaidd

Ysbyty Athrofaol Llandochau

Penlan Road

CF64 2XX

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd