Ein nod yw cynnig mynediad uniongyrchol at ystod o gymorth a gaiff ei gynnig i bobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gallwn eich helpu i gadw’n iach, sut i ddod o hyd i’r cymorth a’r timoedd iawn a all eich helpu gyda gweithgareddau bob dydd.
Poeni am eich cof?
Sut y gallwch chi helpu eich hun
Aros yn iach gartref
Help gyda thechnoleg
Cyfarwyddiadau defnyddiol ar sut i ddefnyddio technoleg ar-lein.
Llyfrau ar bresgripsiwn
Gwasanaethau a chymorth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd
Teleofal Caerdydd
Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig gwasanaeth i helpu preswylwyr bregus, anabl ac oedrannus i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Ewch i wefan Pryd ar Glud
Mae Pryd ar Glud yn dosbarthu prydau poeth, maethlon i breswylwyr ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddeietau ac chyflyrau.
Gwasanaethau Byw yn Annibynnol
Gwybodaeth, cyngor a chymorth i helpu oedolion i fyw’n fwy annibynnol.
Gwasanaethau gwastraff
Gallwch gael help i roi eich biniau allan a chofrestru i gael negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Hybiau a Llyfrgelloedd
Rydym yn cynnig gwasanaeth llyfrgell symudol i bobl sy’n gaeth i’r tŷ os ydych yn ei chael hi’n anodd teithio i Hyb neu Lyfrgell.
Parciau
Gall cerdded ac ymarfer corff helpu i wella eich iechyd a’ch lles
Adnoddau defnyddiol
Mae gan y Gymdeithas Alzheimer amrywiaeth o gyhoeddiadau a luniwyd i gefnogi a chynnig gwybodaeth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ddementia. Gallwch archebu copïau argraffedig o’r cyhoeddiadau hyn, neu gallwch eu darllen ar-lein ar wefan Cymdeithas Alzheimer..
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd cynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ymarferol a chyfarwyddyd emosiynol sydd eu hangen ar ofalwyr i gefnogi eu llesiant eu hunain.
Dementia Connect ydy gwasanaeth cymorth personoledig Cymdeithas Alzheimer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, yn hawdd cael gafael arno ac mae’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth priodol, o help yn eich ardal leol i gyngor dros y ffôn ac ar-lein.
Mae Dewis Cymru yn cynnig gwybodaeth am Wasanaeth Cymorth Dementia lleol i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan unrhyw ffurf ar ddementia, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau.