Neidio i’r cynnwys

Sut y gallwch chi helpu eich hun

How you can help yourself

Nid yw cof unrhyw un yn berffaith, ond gall rhai cyflyrau meddygol achosi mwy o anhawster gyda’r cof nag sy’n arferol.

Mae atgofion byrdymor (newydd) yn fwy tebygol o ddioddef nag atgofion hirdymor (hen). Efallai na fydd rhywun yn cofio rhywbeth a ddigwyddodd y bore hwnnw ond bydd yn cofio’n glir rywbeth a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.

Mae pobl yn tueddu i anghofio pethau bob dydd sy’n gymharol ddibwys, fel postio llythyrau neu amser apwyntiadau.

Mae pryder a straen yn effeithio ar y cof, felly gall pryderu wneud cofio’n anoddach fyth.

Anaml y bydd ceisio ‘ymarfer’ y cof drwy osod profion cof i chi’ch hun yn ddefnyddiol. Mae’n well cadw eich ymennydd yn weithgar trwy barhau i wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau.

Cofio gwneud rhywbeth

  • Nodwch apwyntiadau, dyddiadau pwysig a phethau i’w gwneud ar galendr wal neu mewn dyddiadur.
  • Defnyddiwch bad nodiadau i ysgrifennu rhestrau, gwybodaeth o alwadau ffôn ac arwyddion i’ch helpu eich hun gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd
  • Siaradwch â’ch meddyg teulu am drefnu a labelu blychau meddyginiaeth

Cofio beth sydd wedi digwydd

  • Defnyddiwch ddyddiadur i ysgrifennu am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y dydd
  • Rhowch gynnig ar siarad yn uchel i sicrhau eich bod wedi gwneud rhywbeth (“Dwi wedi cloi’r drws”)

Cofio enwau pobl

  • Cofiwch y gallwch siarad â rhywun heb ddefnyddio ei enw.
  • Pan fydd rhywun yn dweud ei enw wrthoch chi, ailadroddwch yr enw yn ôl iddo.
  • Byddwch yn onest. Mae’n iawn dweud wrth bobl eich bod yn ei chael hi’n anodd cofio enwau.
  • Cadwch restr o enwau pobl gartref a gwnewch nodyn o sut rydych chi’n eu nabod.

Cofio ble rydych chi wedi rhoi pethau

  • Cadwch bethau rydych chi’n tueddu i’w colli yn yr un lle (pwrs, waled ac allweddi mewn powlen neu flwch penodol)
  • Siaradwch yn uchel i gadarnhau ble rydych chi wedi rhoi rhywbeth (“Dwi wedi rhoi’r stampiau yn y drôr”)
  • Cadwch eich sbectol ar gadwyn gwddf
  • Clymwch eich allweddi at fag llaw neu wregys gyda chortyn
  • Rhowch label gyda’ch enw a rhif ffôn ar bethau y gallech eu gadael ar hyd a lled y tŷ, megis ymbarél neu ffon gerdded.
  • Gall larwm cylch allwedd fod yn ddefnyddiol i ddod o hyd i’ch allweddi

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd