Gwasanaeth arbenigol sy’n cefnogi gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia, sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU.
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - Diogelwch yn y Cartref
Cwblhewch hunanasesiad diogelwch yn y cartref ar-lein i ddarganfod pa mor ddiogel ydych chi neu un o’ch anwyliaid gartref, a gofyn am ymweliad diogelwch yn y cartref am ddim os oes angen.
Heddlu De Cymru — Protocol Herbert
Mae Protocol Herbert yn ffurflen sy’n cynnwys gwybodaeth am berson penodol, i’w defnyddio os ydynt yn mynd ar goll.
Gwasanaeth Dementia Cynnar (BIPCaF)
Gwasanaeth arbenigol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia o dan 65 oed, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Cymorth Gofalwyr Solace (BIPCaF)
Gwasanaeth cymorth i sy’n cynnig addysg seicolegol a chefnogaeth emosiynol i ofalwyr sy’n deulu/ffrind i bobl sy’n cael o ddementia.
Ymweliadau Cartref Specsavers
Gall optometryddion Specsavers wneud amryw o brofion llygaid yng nghartrefi rhai na allan nhw deithio i siop heb gwmni, fel y rhai sy’n byw gyda dementia.
Care & Repair Cymru Ymdopi’n Well
Gwasanaeth ymweliad cartref am ddim ydi Ymdopi’n Well sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd â dementia.
Qualia Law
Mae Qualia Law yn fenter gymdeithasol nid er elw sy’n rhoi cymorth a chyngor cyfreithiol am ddim i’r rheiny sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd, a gofalwyr.
Age Cymru Prosiect Eiriolaeth Dementia Annibynnol
Age Cymru eiriolaeth dementia annibynnol yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a’ch bod wrth galon y penderfyniadau sy’n effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Atwrneiaeth Arhosol,
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi datblygu Canllawiau Hwylus ar
Atwrneiaeth Arhosol
Adnoddau defnyddiol
Mae gan y Gymdeithas Alzheimer amrywiaeth o gyhoeddiadau a luniwyd i gefnogi a chynnig gwybodaeth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ddementia. Gallwch archebu copïau argraffedig o’r cyhoeddiadau hyn, neu gallwch eu darllen ar-lein ar wefan Cymdeithas Alzheimer..
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd cynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ymarferol a chyfarwyddyd emosiynol sydd eu hangen ar ofalwyr i gefnogi eu llesiant eu hunain.
Mae Gofal Profediaeth Cruse wedi cyhoeddi Profedigaeth, Colled a Dementia. Nod y llfyryn hwn yw rhoi gwybodaeth am brofedigaeth i bobl â dementia a’r rheiny sy’n helpu pobl â dementia sy’n weddw.
Mae Dementia Carers Count yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim sy’n rhoi cyfle i ofalwyr teuluol ddeall mwy am ddementia a chysylltu ag eraill mewn sefyllfa debyg. Yn cynnig cyngor ymarferol ar realiti a heriau o fod yn ofalwr. Homepage | Dementia Carers Count
Dementia Connect ydy gwasanaeth cymorth personoledig Cymdeithas Alzheimer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, yn hawdd cael gafael arno ac mae’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth priodol, o help yn eich ardal leol i gyngor dros y ffôn ac ar-lein.
Mae Dewis Cymru yn cynnig gwybodaeth am Wasanaeth Cymorth Dementia lleol i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan unrhyw ffurf ar ddementia, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau.
Mae Effro wedi cynhyrchu Canllaw Positif i Fywyd Ar ôl Eich Diagnosis Dementia. Nod y llyfryn hwn yw rhoi awgrymiadau defnyddiol a chyngor cyfeillgar i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae’r canllaw ar gael yma:Effro Canllaw cadarnhaol i fywyd ar ôl eich diagnosis dementia