Neidio i’r cynnwys

Poeni am eich cof?

Worries about your memory?

Anawsterau gyda’r cof

Wrth i ni fynd yn hŷn mae’n bosibl y byddwn yn sylwi nad yw ein cof cystal ag yr arferai fod.

Rhai problemau cyffredin gyda’r cof:

  • Anhawster cofio enwau neu sgyrsiau,
  • Colli pethau,
  • Anghofio’r hyn yr oeddem ar fin ei wneud.

Mae rhai pobl yn ystyried bod problemau o’r fath yn rhan arferol o heneiddio.  Mae’n bosibl y bydd rhai eraill yn poeni eu bod yn datblygu cyflwr mwy difrifol fel Demensia.

Dylech sôn am hyn wrth eich meddyg a bydd yn cynnal profion cof ffurfiol i weld sut mae eich cof. Os yw eich canlyniadau ychydig yn waeth na’r disgwyl ar gyfer eich oedran, efallai y bydd meddyg yn diagnosio ‘nam gwybyddol ysgafn’ ac yn cynnig eich gweld eto yn y dyfodol.

Yn ffodus, eithriad yn hytrach na’r arfer yw problemau mwy difrifol gyda’r cof.

Mae’n syniad da i unrhyw un sy’n poeni am ei gof gael gwiriad gyda’i feddyg teulu.

Beth sy’n achosi anawsterau gyda’r cof?

Mae llawer bethau’n achosi anawsterau gyda’r cof.

  • Ar ôl strôc,
  • Hwyliau isel neu straen,
  • Problem feddygol neu feddyginiaeth,
  • Demensia

A yw anawsterau gyda’r cof bob amser yn mynd yn waeth?

Mae pobl yn aml yn gofyn a fydd eu cof yn parhau i waethygu. Mae hyn yn rhywbeth na allwn ei ragweld bob amser.

Bydd rhai pobl yn aros yr un peth i bob pwrpas, a bydd eraill yn sylwi bod eu problemau gyda’r cof yn gwaethygu.

Os ydych yn poeni am eich cof neu am gof rhywun sy’n agos atoch, mae’n werth ceisio cyngor.

Yn dibynnu ar achos y nam ar y cof, mae’n bosibl y bydd yna driniaeth a all helpu.

Sut galla i helpu fy hun?

Cadw’n gorfforol ac yn feddyliol actif a gwneud pethau rydych chi’n eu mwynhau sy’n helpu fwyaf.

Lle bynnag bo hynny’n bosibl:-

  • Cadwch at drefn a chadwch bethau yn yr un lle
  • Rhowch fwy o amser i chi’ch hun wneud pethau
  • Osgowch sefyllfaoedd llawn straen a gwrthdaro
  • Derbyniwch gynigion o gymorth a chefnogaeth
  • Defnyddiwch gymhorthion cof
  • Bwytewch ddeiet da ac osgoi gormod o alcohol.

Ble alla i gael cyngor?

Mae nifer o leoedd lle y gallwch gael cyngor am anawsterau gyda’r cof:

  • Eich Meddyg Teulu,
  • Y Tîm Cof,
  • Y Gymdeithas Alzheimer

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd