Cymerwch gamau i wneud eich busnes yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, gyda chydnabyddiaeth swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer’s.
Gallwn gefnogi eich busnes neu’ch sefydliad i fod yn un sy’n Deall Dementia.
Bydd gwneud newidiadau, waeth pa mor fach, yn golygu y bydd eich gwasanaethau a’ch safleoedd yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia, a’r bobl hynny sy’n gofalu amdanynt.
Nid oes unrhyw gost i gael cydnabyddiaeth Deall Dementia, mae’r holl adnoddau a chymorth a roddwn am ddim.
Byddwn yn darparu:
- Sesiynau gwybodaeth am ddim ar ddod yn fusnes neu sefydliad sy’n Deall Dementia
- Cymorth i gael mynediad i sesiynau Cyfeillion Dementia ar gyfer eich staff
- Adnoddau a chefnogaeth am ddim
Mae’n broses syml. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw:
- Gwnewch nodyn o’ch gweithredoedd ar y cynllun gweithredu a ddarperir
- Ymrwymo i weithredu drwy lofnodi’r addewid
- Dechreuwch arni a chael eich tystysgrif a’ch sticer ffenestr Deall Dementia
Drwy addo dod yn Fusnes sy’n Deall Dementia:
- Cewch gydnabyddiaeth o’ch statws Busnes sy’n Deall Dementia ar ein gwefan
- Bydd eich staff yn datblygu gwell dealltwriaeth o anghenion y rhai sydd â dementia
- Gall pobl yr effeithir arnynt gan ddementia ymweld â’ch busnes yn hyderus
Cysylltwch â DeallDementia@caerdydd.gov.uk am ragor o wybodaeth.