Bydd mudiad hwn annog ac yn cynorthwyo sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i ddeall dementia a chynnig gwell cymorth i bobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd.
Adnoddau defnyddiol
Mae gan y Gymdeithas Alzheimer amrywiaeth o gyhoeddiadau a luniwyd i gefnogi a chynnig gwybodaeth i unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan ddementia. Gallwch archebu copïau argraffedig o’r cyhoeddiadau hyn, neu gallwch eu darllen ar-lein ar wefan Cymdeithas Alzheimer.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd cynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ymarferol a chyfarwyddyd emosiynol sydd eu hangen ar ofalwyr i gefnogi eu llesiant eu hunain.
Dementia Connect ydy gwasanaeth cymorth personoledig Cymdeithas Alzheimer. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim, yn hawdd cael gafael arno ac mae’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth priodol, o help yn eich ardal leol i gyngor dros y ffôn ac ar-lein.
Mae Dewis Cymru yn cynnig gwybodaeth am Wasanaeth Cymorth Dementia lleol i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n cael ei effeithio gan unrhyw ffurf ar ddementia, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr, aelodau o’r teulu neu ffrindiau.
Poeni am eich cof?
Gwybodaeth a chanllawiau os ydych yn poeni am eich cof.