Neidio i’r cynnwys
Sherman 5 (Theatr y Sherman) Paned & Stori: Our Werth
Jul 19
Paned & Stori

Sherman 5 (Theatr y Sherman) Paned & Stori: Our Werth

Sherman 5 (Theatr y Sherman) Paned & Stori: Our Werth
Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
10:30am
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
Theatr y Sherman Heol Senghennydd Caerdydd CF24 4YE

Fore difyr o theatr a sgwrsio

Paned a Stori yw digwyddiad chwarterol newydd ar gyfer aelodau Sherman 5 lle gallwch gwrdd ag eraill, mwynhau perfformiad o ddrama yn cael ei darllen, gyda thê a chacen i ddilyn, y cyfan am £3.

  • Mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch, felly gallwch chi gadw pellter cymdeithasol os hoffech chi.
  • Bydd tê a chacennau yn cael eu gweini yn y cyntedd wedyn
  • Bydd y Caffi Bar ar agor i’r rhai sydd am brynu cinio.
  • Bydd llawer o gyfleoedd i ddal i fyny a chwrdd ag aelodau eraill Sherman 5.

Bydd drama nesaf, Our Werth gan Lucie Lovatt, yn cael ei darllen ar Ddydd Gwener, Gorffennaf 29 ac yna bydd trafodaeth gyda’r awdur, yr actorion a’r cyfarwyddwr.

Cwrdd yn y cyntedd am 10.30yb cyn i’r perfformiad ddechrau ac mae croeso i chi eistedd lle bynnag y dymunwch, felly gallwch chi gadw pellter cymdeithasol os hoffech.

 

Archebwch

Tocynnau am £3 yn unig i Aelodau Sherman 5

I archebu tocynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 029 2064 6900 / e-bostiwch box.office@shermantheatre.co.uk

Ar gyfer archebion grŵp, cysylltwch â Chydlynydd Sherman 5: Claire.bottomley@shermantheatre.co.uk / Ffôn: 029 2064 6911


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd