Neidio i’r cynnwys
Sesiwn Wybodaeth Gofalwyr Cymru
Jun 04

Sesiwn Wybodaeth Gofalwyr Cymru

Mae tua 370,000 o ofalwyr ledled Cymru sydd, yn ddi-dâl, yn cefnogi rhywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael.

Mae gofalwyr ledled Cymru yn cynnig 96% o’r gofal a gan fod ein hanwyliaid yn byw’n hirach gyda salwch ac anabledd, bydd angen i fwy a mwy ohonon ni ofalu amdanyn nhw.

Er hynny, mae llawer ohonon wedi ein hymestyn i’r eithaf – yn ceisio cydbwyso gofal â gwaith a bywyd teuluol, neu hyd yn oed yn dioddef o broblemau iechyd ein hunain.

Dewch i ymuno â’n sesiwn i ddysgu pa gymorth sydd ar gael i chi a’r bobl hynny a allai fod yn rhannu cyfrifoldebau gofalu â chi.

Dydd Gwener 4 Mehefin 3.30pm – 4.30pm

Dydd Iau 17 Mehefin 4pm – 5pm

Trwy Microsoft Teams

I gael rhagor o wybodaeth a’r ddolen i ymuno â ni, cysylltwch â sian.young2@cardiff.gov.uk

Mae’r sesiwn hon yn Saesneg, fodd bynnag, bydd gennym siaradwr Cymraeg ar gael i’w gyfeithu of hoffech ofyn cwestiynau yn Gymraeg.


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd