Neidio i’r cynnwys
Sesiwn Blasu Lles (i’r rhai sy’n gofalu am rywun sydd â dementia)
Aug 23

Sesiwn Blasu Lles (i’r rhai sy’n gofalu am rywun sydd â dementia)

Sesiwn Blasu Lles (i'r rhai sy'n gofalu am rywun sydd â dementia)
Dydd Mawrth 27 Medi 2022
13:30 - 15:30pm
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
Canolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd Heol yr Hen Eglwys Caerdydd CF14 1AD

Ar y cyd â’r prosiect Breathe, bydd Effro yn cynnal sesiwn les i’r rhai sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia.

“Edrych ar ôl dy hun wrth i ti edrych ar ôl pobl eraill”

Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi rhai technegau i chi eu hymarfer am ddim gartref, sy’n gallu cymryd cyn lleied â 5 munud. Bydd rhai therapyddion gyda ni hefyd yn cynnig rhagflas o dylino, adweitheg a shiatsu. Wedi’r sesiwn gallwch wneud cais i gael 8 sesiwn o therapi o’ch dewis am ddim, yn ogystal ag 8 sesiwn o gwnsela am ddim. Mae croeso i chi hefyd ddod draw am baned a sgwrs yn unig.

Byddwn yn cynnal gweithgareddau mewn ystafell gyfagos i’r person rydych yn gofalu amdano.

Os hoffech gymryd rhan yn y sesiwn, e-bostiwch: Effro@platfform.org i archebu lle neu gofrestru yma ar Eventbrite.

Gan fod y sesiwn yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb, os ydych chi neu unrhyw un yn eich tŷ yn dangos symptomau Covid-19, peidiwch â mynychu.

0300 3035918

effro.eventbrite.co.uk


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd