Neidio i’r cynnwys
Achlysur Dathlu a Hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr Gweithgareddau mewn Cartrefi Nyrsio, Cartrefi Preswyl a Chanolfannau Dydd (AM DDIM)
Sep 01

Achlysur Dathlu a Hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr Gweithgareddau mewn Cartrefi Nyrsio, Cartrefi Preswyl a Chanolfannau Dydd (AM DDIM)

Achlysur Dathlu a Hyfforddiant ar gyfer Cydlynwyr Gweithgareddau mewn Cartrefi Nyrsio, Cartrefi Preswyl a Chanolfannau Dydd (AM DDIM)
Dydd Iau 29 Medi 2022
10am - 5pm
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Heol Llanfihangel Caerdydd CF5 6XB

Mae Cerddoriaeth a Diwylliant mewn Gofal yn achlysur ar gyfer cydlynwyr gweithgareddau, timau gofal a darparwyr cyflogedig mewn lleoliadau preswyl, cartrefi nyrsio a chanolfannau dydd ar draws Cymru sy’n cynnal gweithgareddau ar gyfer pobl hŷn. Pwrpas yr achlysur yw dathlu llwyddiannau cynrychiolwyr a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

Cyfrif tuag at CPD

Bydd cyfieithwyr Cymraeg a BSL yn bresennol drwy gydol yr amser.

Bydd y diwrnod yn cynnwys: cerddoriaeth fyw gan LMN; gweithgareddau ac adnoddau hyfforddiant ymarferol i ehangu’r defnydd o gerddoriaeth fyw a gweithgareddau creadigol a diwylliannol o fewn gofal; te a chacen prynhawn; cinio blasus a chyfle i edrych o gwmpas yr Amgueddfa.

Rydym yn falch o allu dweud y bydd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, a Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn bresennol. Hefyd bydd cyfraniad gan Gymdeithas Genedlaethol Darparwyr Gweithgareddau.

Bydd gwahoddiad a manylion llawn am yr agenda yn dilyn yn fuan.

https://www.eventbrite.com/e/music-and-culture-in-care-tickets-404664070127

 

Agenda’r Digwyddiad

10am: Taith ddewisol o’r amgueddfa

10.30am: Te/coffi/rhwydweithio

11am: Cerddoriaeth fyw gan gerddorion LMN

11.15am: Cyflwyniadau: Janet Fischer a Heather Chandler (LMN)

Ffilm Fer gan LMN (rîl sioe)

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (5 munud o ddiolchiadau)

11.30am: Rhannu:

  • Gweithgaredd twymo lan cyfranogol dan arweiniad cerddor LMN – enghraifft o waith LMN mewn cartrefi gofal, hwyl ac rhyngweithiol i gael pobl i symud
  • Rhannu pethau o gartrefi gofal sydd wedi gweithio gyda LMN
  • Cynrychiolwyr yn cael eu hannog i rannu enghreifftiau o weithgareddau cerddoriaeth yn eu cartrefi gofal

12.15pm: Sesiwn ryngweithiol Amgueddfa Cymru – Sesiwn lawn: pawb yn y brif ddarlithfa

1pm: Cinio – cyfle arall i weld y safle

Arddangosfa Tai Chi – Age Cymru

2pm: Carwsél a grwpiau wedi’u rhannu ar draws dwy sesiwn

Hyfforddiant 45 munud: gweithgareddau cerddoriaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn gofal gydag Andrea Vogler (hanner y cynrychiolwyr cyn newid)

Hyfforddiant 45 munud:  Age Cymru (hanner y cynrychiolwyr cyn newid)

3.30: Ymchwil: cerddoriaeth gefndirol gan gerddorion LMN. Gofynnir i gynrychiolwyr gwblhau arolwg byr ar-lein/papur ar anghenion/sut rydym yn eu bodloni

4pm: Sgwrs NAPA

4.15pm: Te prynhawn gyda cherddoriaeth fyw gan gerddorion LMN a diolchiadau MSC.

5pm: Diwedd

 

www.livemusicnow.org.uk

www.ageuk.org.uk/cymru

www.amgueddfa.cymru

 

Yn y cyfamser, os bydd gennych unrhyw gwestiwn, cofiwch gysylltu â Heather Chandler, Uwch Reolwr Prosiect, Live Music Now Cymru ar  heather.chandler@livemusicnow.org.uk


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd