Dydd Mawrth 27 Medi 2022
|
|
13:30 - 15:30pm | |
Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
Canolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd Heol yr Hen Eglwys Caerdydd CF14 1AD |
Ar y cyd â’r prosiect Breathe, bydd Effro yn cynnal sesiwn les i’r rhai sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia.
“Edrych ar ôl dy hun wrth i ti edrych ar ôl pobl eraill”
Yn y sesiwn hon byddwn yn rhoi rhai technegau i chi eu hymarfer am ddim gartref, sy’n gallu cymryd cyn lleied â 5 munud. Bydd rhai therapyddion gyda ni hefyd yn cynnig rhagflas o dylino, adweitheg a shiatsu. Wedi’r sesiwn gallwch wneud cais i gael 8 sesiwn o therapi o’ch dewis am ddim, yn ogystal ag 8 sesiwn o gwnsela am ddim. Mae croeso i chi hefyd ddod draw am baned a sgwrs yn unig.
Byddwn yn cynnal gweithgareddau mewn ystafell gyfagos i’r person rydych yn gofalu amdano.
Os hoffech gymryd rhan yn y sesiwn, e-bostiwch: Effro@platfform.org i archebu lle neu gofrestru yma ar Eventbrite.
Gan fod y sesiwn yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb, os ydych chi neu unrhyw un yn eich tŷ yn dangos symptomau Covid-19, peidiwch â mynychu.
0300 3035918
effro.eventbrite.co.uk
Comments are closed.