Neidio i’r cynnwys
Gweminar 3NDWG: Cyn diagnosis
Sep 22

Gweminar 3NDWG: Cyn diagnosis

Fel rhan o Fis Clefyd Alzheimer y Byd, bydd Gweithgor Dementia’r 3 Gwlad (3NDWG) yn cynnal tair gweminar.

Bydd pobl â dementia’n rhannu eu profiad cyn cael diagnosis, y symptomau oedd ganddyn nhw a’r hyn a’u gyrrodd i geisio cael diagnosis.

Cliciwch yma i gofrestru

Bydd y weminar yn cael ei recordio a bydd ar gael i’w gwylio eto ar wefan 3NDWG os na allwch ddod.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r panel. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru neu’r weminar cyn y weminar, anfonwch e-bost at 3ndwg@alzheimers.org.uk.

Mae gweminarau 3NDWG am ddim ac yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, ymchwilwyr, pobl â dementia a phartneriaid gofal. Mae 3NDWG yn grŵp ymgyrchu o arbenigwyr drwy brofiad sy’n cynnal gweminarau rheolaidd sy’n addysgol ac yn procio’r meddwl.

Mae’r gweminarau’n cael eu dylunio a’u cyflwyno gan bobl â dementia, ac fe’ch anogir i wrando’n fyw neu ar ôl digwyddiad (Recordiadau Gweminar) i wella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun o ddementia.

Rhannwch y gwahoddiad hwn gydag eraill a allai fod â diddordeb.

Dymuniadau gorau ar ran

3NDWG


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd