|
20 Ionawr 2027
|
|
| 1-4pm | |
| Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | |
| Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
| St Fagans National Museum of History Michaelston Road Cardiff CF5 6XB |
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ailddarganfod y llên gwerin a’r ofergoelion oedd yn rhan mor bwysig o fywyd bob dydd i’n cyndeidiau. Ar ôl ymweld â rhai o’r adeiladau, bydd cyfle i fwynhau gweithgaredd crefft ysgafn.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
· Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
· Cyfle i grwydro a mwynhau’r amgueddfa allanol
· Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa. Mae’r daith yn para tua 3 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth. Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Sain Ffagan.
Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch Archebu tocynnau ’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae’n bosib y byddwn ni’n codi tâl gweinyddol fel arall.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.


Comments are closed.