Neidio i’r cynnwys
Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffasiwn
Jul 02

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffasiwn

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffasiwn
8 Hydref 2026
1:30 – 4.00 pm
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
National Museum Cardiff Cathays Park Cardiff CF10 3NP

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weld arddangosfa Ffasiwn. Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth yn herio beth yw ‘ffasiwn’ ac yn llawn delweddau wedi’u creu gan bobl ifanc o bob cwr o’r cymoedd. Ar ôl ymweld â’r oriel bydd cyfle i fwynhau gweithgaredd crefft ysgafn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Diod gynnes a sgwrs
  • Cyfle i fwynhau un o’n harddangosiadau dros dro

 

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth.

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

Mae archebu yn hanfodol. I archebu lle, cofrestrwch trwy glicio:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffasiwn | Museum Wales

Fel arall, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae’n bosib y byddwn ni’n codi tâl gweinyddol fel arall.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd