Neidio i’r cynnwys
Ffilm: Minions: The Rise of the Gru (U) – Amgylchedd Ymlaciol
Jul 19
Sinema

Ffilm: Minions: The Rise of the Gru (U) – Amgylchedd Ymlaciol

Ffilm: Minions: The Rise of the Gru (U) - Amgylchedd Ymlaciol
Dydd Sul 31 Gorffennaf 2022
3:40pm
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
Canolfan Gelfyddydau Chapter Heol y Farchnad, Treganna Caerdydd CF5 1QE

Yng nghanol y saithdegau, gyda llond y lle o wallt pluog a jîns fflêr, mae Gru, sy’n ffan o’r grŵp o siwpyr-ddihirod y Vicious 6, yn creu cynllun i fod yn ddigon drwg i gael ymuno â nhw, gyda rhywfaint o gymorth gan y Minions. Gyda’i gilydd, mae Kevin, Stuart, Bob, ac Otto yn defnyddio eu sgiliau wrth iddyn nhw a Gru adeiladu eu ffau gyntaf, arbrofi gydag arfau, a chyflawni ymgyrchoedd i helpu Gru i ddod yn wirioneddol ofnadwy. 

Prisiau: £6 / £4

Archebwch docynnau

Amgylchedd Ymlaciol – Gyda rhagor o olau, lefel sain is, dim hysbysebion a rhyddid i symud/gwneud sŵn, mae cyflwyniadau amgylchedd ymlaciol ar gyfer plant ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth neu sydd ag anableddau dysgu, a’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr.

Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd