Neidio i’r cynnwys
Clywed gan ofalwyr di-dâl: Cael eich adnabod fel gofalydd (Rhithwir)
May 19
Carers Trust Wales

Clywed gan ofalwyr di-dâl: Cael eich adnabod fel gofalydd (Rhithwir)

Clywed gan ofalwyr di-dâl: Cael eich adnabod fel gofalydd (Rhithwir)
7 Mehefin 2022
10:30am - 12:00pm
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen

Eich profiadau a datrysiadau

Fe’ch gwahoddir i gyfrannu at drafodaeth ar-lein ar eich profiad o hunan-adnabod neu gael eich adnabod fel gofalydd di-dâl gan wahanol wasanaethau a mecanweithiau cymorth.

·         Beth yw’r manteision o adnabod fel ‘gofalydd’?

·         Pa sefydliadau sy’n eich adnabod fel gofalydd a sut digwyddodd hyn?

·         Beth fyddai’n gwneud adnabod fel gofalydd yn haws?

Bydd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

Croesewir cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg, gyda chyfleusterau cyfieithu ar gael.

Archebwch eich lle ar Eventbrite

Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o gyfres o gyfarfodydd gyda gofalwyr di-dâl drwy gydol 2022/23, a hwyluswyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, i hysbysu Gweinidogion Llywodraeth Cymru am brofiadau bywyd gofalwyr. Gallwch ddarganfod mwy yma.


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd