|
Dydd Mawrth 13 Hydref 2026
|
|
| 9.30am – 11.30am | |
| Effro | |
| Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
Mae’r gweithdy hwn yn archwilio sut y gall gwahanol fathau o drawma ymddangos mewn pobl sy’n byw â dementia, ac yn cynnig cymorth ymarferol. Mae’r sesiwn hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol, aelodau o’r teulu a gofalwyr rhywun sy’n byw â dementia
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio gwahanol fathau o drawma, a sut y gallent effeithio ar rywun sy’n byw â symptomau dementia.
Byddwn yn edrych ar rai ymddygiadau a symptomau nodweddiadol trawma yn y gorffennol a’r presennol a allai gyflwyno pan fyddant yn cael eu sbarduno, gan y gall y rhain yn aml cael eu cam-adnabod, a’u labelu fel ‘ymosodedd’ neu ‘ddifaterwch’.
Byddwn hefyd yn edrych ar gymorth ymarferol, gan gynnwys syniadau i greu diogelwch a chyd-reoleiddio ac atal ymatebion trawma sy’n cael eu sbarduno.
I gadw lle, cliciwch ar y ddolen hon: Tocynnau ar gyfer Dull Gofal Dementia sy’n Ystyriol o Drawma, Dyddiadau lluosog | Eventbrite


Comments are closed.