Neidio i’r cynnwys
Atgofion Therapiwtig ar gyfer Gofal Dementia
Jul 09

Atgofion Therapiwtig ar gyfer Gofal Dementia

Atgofion Therapiwtig ar gyfer Gofal Dementia
Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
9.30am - 11.30am
Effro
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen

Cyflwyniad i therapi atgofion a sut y gallwch ei ddefnyddio gartref neu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae’r sesiwn hon ar gyfer aelodau o’r teulu a gofalwyr di-dâl rhywun sy’n byw â dementia, yn ogystal â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol

Gellir dosbarthu atgofion fel ‘therapi’, ond nid oes angen i chi fod yn arbenigwr hyfforddedig i’w ddefnyddio.

Yn y sesiwn hon byddwn yn helpu i ddad-ddirgelu beth yw therapi atgofion, a’i wneud yn offeryn hygyrch i bawb sy’n treulio amser gyda rhywun sy’n byw â dementia.

Dangoswyd bod atgofion yn codi hwyliau, yn cynyddu hyder, yn grymuso ac yn ychwanegu gwerth ystyrlon at fywydau pobl sy’n byw â dementia. Ac i deuluoedd a gofalwyr, gall fod yn ffordd gadarnhaol, bleserus o dreulio amser, ac adeiladu cysylltiadau dyfnach â’ch anwylyd.

Byddwn yn trafod egwyddorion sylfaenol atgofion ac yn rhoi rhai gweithgareddau addasadwy i chi y gallwch eu hymgorffori yn eich bywyd bob dydd.

I gadw lle, cliciwch ar y ddolen hon: Tocynnau ar gyfer Atgofion Therapiwtig ar gyfer Gofal Dementia, Dyddiadau lluosog | Eventbrite


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd