|
8 Hydref 2026
|
|
| 1:30 – 4.00 pm | |
| Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | |
| Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
| National Museum Cardiff Cathays Park Cardiff CF10 3NP |
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weld arddangosfa Ffasiwn. Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth yn herio beth yw ‘ffasiwn’ ac yn llawn delweddau wedi’u creu gan bobl ifanc o bob cwr o’r cymoedd. Ar ôl ymweld â’r oriel bydd cyfle i fwynhau gweithgaredd crefft ysgafn.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Diod gynnes a sgwrs
- Cyfle i fwynhau un o’n harddangosiadau dros dro
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Mae archebu yn hanfodol. I archebu lle, cofrestrwch trwy glicio:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Ffasiwn | Museum Wales
Fel arall, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae’n bosib y byddwn ni’n codi tâl gweinyddol fel arall.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.


Comments are closed.