Neidio i’r cynnwys
Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Gwanwyn yn Sain Ffagan
Feb 05

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Gwanwyn yn Sain Ffagan

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Gwanwyn yn Sain Ffagan
Dydd Iau 5 Mawrth 2026
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
St Fagans National Museum of History Michaelston Road Cardiff CF5 6XB

Ymunwch a ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i ddathlu dechrau’r Gwanwyn, drwy ymweld â’r defaid beichiog ar fferm Llwyn-yr-Eos, cyn hau hadau i fynd adref gyda chi.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i grwydro a mwynhau’r amgueddfa allanol
  • Diod gynnes a sgwrs

 

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa. Mae’r daith yn para tua 3 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Sain Ffagan.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio’n broblem.


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd