Dydd Gwener 23 Medi
|
|
11am - 1pm | |
Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
As part of world Alzheimer’s Month, 3 Nations Dementia Working Group (3NDWG) will be holding three webinars.
“The World Turned Upside Down”
Bydd hon yn sesiwn 2 awr arbennig a fydd yn lansio’r ffilm ‘The World Turned Upside Down’ – rhan o’r prosiect ymchwil IDEAL.
Mae ‘The World Turned Upside Down’ yn ddrama a lwyfannwyd yng Nghaerwysg ym mis Ionawr 2022. Mae’r ffilm hon yn dangos y perfformiadau a’r broses o’i chreu. Mae’r ffilm yn dangos dysgu, persbectif a meddyliau’r actorion, aelodau’r gynulleidfa a phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia a wnaeth gynghori a dylanwadu ar y ddrama – diddorol iawn!
Mae’r ddrama’n ymwneud â chyfathrebu o amgylch dementia. Mae llawer o adegau rhwng unigolion ac aelodau o’u teulu, neu unigolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, lle mae canlyniad sefyllfa yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu, a sut.”
Bydd cyfle i drafod a gofyn cwestiynau drwy’r blwch sgwrsio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru neu’r weminar cyn y weminar, anfonwch e-bost at:
3ndwg@alzheimers.org.uk
Mae’r gweminarau’n cael eu dylunio a’u cyflwyno gan bobl â dementia, ac fe’ch anogir i wrando’n fyw neu ar ôl digwyddiad (Recordiadau Gweminar) i wella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun o ddementia.
Rhannwch y gwahoddiad hwn gydag eraill a allai fod â diddordeb.
Dymuniadau gorau ar ran
3NDWG
Comments are closed.