Neidio i’r cynnwys
Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Mamoth Blewog
Sep 12

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Mamoth Blewog

Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Mamoth Blewog
Iau 4th Rhagfyr 2025
1:30-4.00pm
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
National Museum Cardiff Cathays Park Cardiff CF10 3NP

Ymunwch a ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddysgu mwy am ein hatyniad diweddaraf – y replica o sgerbwd mamoth blewog yn y Brif Neuadd! Defnyddiwyd technegau sganio a phrintio 3D i ail-greu sgerbwd mamoth blewog maint llawn er mwyn ein helpu i ddeall yr anifail hynod hwn o’n cynhanes a’r byd oedd yn byw ynddo 14,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn dilyn hyn, bydd gweithgaredd crefft ysgafn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
  • Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
  • Diod gynnes a sgwrs

 

Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi’r Amgueddfa.

Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am ⁠hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.

Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch: Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Mamoth Blewog | Amgueddfa Cymru

Neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio’n broblem.

Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd