
Dydd Iau 9 Hydref 2025
|
|
1.30am – 4.00pm | |
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | |
Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
National Museum Cardiff Cathays Park Cardiff CF10 3NP |
Ymunwch a ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am daith drwy arddangosfa Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif sy’n edrych ar y ffoto-gylchgrawn arloesol oedd yn cofnodi bywyd bob dydd, digwyddiadau mawr a newidiadau cymdeithasol. Bydd gweithgaredd crefft ysgafn i ddilyn, wedi’i ysbrydoli gan yr hyn fyddwn ni’n ei weld yn yr arddangosfa.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae’r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi’r Amgueddfa.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy’n byw gyda dementia ac sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Picture Post | Amgueddfa Cymru
Neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Mae cefnogaeth ar gael os yw teithio’n broblem.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.
Comments are closed.