Neidio i’r cynnwys
Cerdded Gyda’n Gilydd: Grŵp Cerdded Cymorth Profedigaeth
Feb 01

Cerdded Gyda’n Gilydd: Grŵp Cerdded Cymorth Profedigaeth

Cerdded Gyda’n Gilydd: Grŵp Cerdded Cymorth Profedigaeth
Dydd Mercher
2pm
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Cruse (prif elusen cymorth profedigaeth y DU).
Join now Email us for the link Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen
Roath Park Lake Roath Cardiff CF10 4UW

Mae profedigaeth yn dod ag ystod eang o heriau emosiynol, iechyd meddwl, corfforol, ac ymarferol.  Mae profiad profedigaeth pawb yn unigryw.

Weithiau, yr hyn y mae pobl yn ei groesawu yw’r cyfle i gwrdd â phobl eraill sydd wir yn deall, o brofiad personol, yr heriau sy’n ganlyniad i golli rhywun agos. Mae’n ymwneud â gwybod nad ydych ar eich pen eich hun. Gall bod yng nghwmni pobl eraill a mwynhau awyr iach, bod yn actif, a’r awyr agored fod o gymorth mawr.

Rydym yn cerdded beth bynnag yw’r tywydd, felly dewch â’ch ymbarél os oes angen. Awn am dro o amgylch Llyn Parc y Rhath ar gyflymder sy’n addas ar gyfer pawb. Wrth gwrs, rydym yn gorffen gyda lluniaeth yng nghaffi Terra Nova yn y parc (gyda chacen na ddylid ei cholli).

Felly, dewch i ymuno â ni wrth i ni gerdded ymlaen i 2023.  Cewch groeso cynnes.

Dewch i gwrdd wrth Oleudy Coffa Scott / Tŵr y Cloc.

Dyddiadau 2023:

11 Ionawr

8 Chwefror

8 Mawrth

 

Cefnogir y grŵp gan:

Mark Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) Ffôn: 07976 510648

Catrin Hall sy’n wirfoddolwr gyda’r Bwrdd Iechyd

Nigel Dore sy’n gweithio i Cruse.

 


Share this:
Rhannwch:

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd