Dydd Mercher
|
|
2pm | |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Cruse (prif elusen cymorth profedigaeth y DU). | |
Join now Email us for the link | Ymunwch nawr Anfonwch e-bost atom i gael y ddolen |
Roath Park Lake Roath Cardiff CF10 4UW |
Mae profedigaeth yn dod ag ystod eang o heriau emosiynol, iechyd meddwl, corfforol, ac ymarferol. Mae profiad profedigaeth pawb yn unigryw.
Weithiau, yr hyn y mae pobl yn ei groesawu yw’r cyfle i gwrdd â phobl eraill sydd wir yn deall, o brofiad personol, yr heriau sy’n ganlyniad i golli rhywun agos. Mae’n ymwneud â gwybod nad ydych ar eich pen eich hun. Gall bod yng nghwmni pobl eraill a mwynhau awyr iach, bod yn actif, a’r awyr agored fod o gymorth mawr.
Rydym yn cerdded beth bynnag yw’r tywydd, felly dewch â’ch ymbarél os oes angen. Awn am dro o amgylch Llyn Parc y Rhath ar gyflymder sy’n addas ar gyfer pawb. Wrth gwrs, rydym yn gorffen gyda lluniaeth yng nghaffi Terra Nova yn y parc (gyda chacen na ddylid ei cholli).
Felly, dewch i ymuno â ni wrth i ni gerdded ymlaen i 2023. Cewch groeso cynnes.
Dewch i gwrdd wrth Oleudy Coffa Scott / Tŵr y Cloc.
Dyddiadau 2023:
11 Ionawr
8 Chwefror
8 Mawrth
Cefnogir y grŵp gan:
Mark Jones (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) Ffôn: 07976 510648
Catrin Hall sy’n wirfoddolwr gyda’r Bwrdd Iechyd
Nigel Dore sy’n gweithio i Cruse.
Comments are closed.