Neidio i’r cynnwys

Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae ein Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned yn cefnogi pobl 60 oed a hŷn i gadw’n annibynnol ac yn gysylltiedig â’u cymunedau.

Rydym yn gweithio gyda phobl a allai fod yn gymdeithasol ynysig, ag anabledd corfforol, neu sy’n byw gyda chyflwr sy’n gysylltiedig ag oedran, fel dementia.

Mae’r gefnogaeth yn fyrdymor ac yn canolbwyntio ar helpu pobl i fagu hyder ac adennill annibyniaeth.

Os yw’r tîm yn nodi bod angen cymorth tymor hwy, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau fel gwaith cymdeithasol neu therapi galwedigaethol.

Sut rydym yn eich cefnogi chi

Yn gyntaf, byddwn yn cwrdd â chi yn eich cartref i ddeall beth sy’n bwysig i chi a’r hyn yr hoffech ei gyflawni.

Yna, gallwn eich helpu i:

  • ailgysylltu â’ch cymuned leol,
  • datblygu eich sgiliau a’ch hyder, a
  • chyrraedd ardaloedd lleol, grwpiau a gweithgareddau yn ddiogel.

Mae’r gefnogaeth wedi’i bersonoli ac yn seiliedig ar eich anghenion a’ch nodau unigol.

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae’r Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned yn helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau a chyfleoedd yn eu hardal leol.

Gall hyn gynnwys:

  • ymuno â grwpiau cymdeithasol,
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, a
  • datblygu diddordebau newydd.

 

Y nod yw eich helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig a hyderus ym mywyd bob dydd.

Ymgysylltu Digidol

Gallwn gynnig gwasanaeth digidol i’ch helpu i gael a defnyddio technoleg gartref, gyda hyd at chwe sesiwn gymorth i fagu eich hyder a’ch helpu i ailgysylltu â grwpiau a gweithgareddau lleol.

Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth

Gallwch gyfeirio eich hun at y Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned.

Gallwch gysylltu a ni drwy:

 

 

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd