Neidio i’r cynnwys

Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro

Mae angen eich help ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro… 

Mae BPRh Caerdydd a’r Fro wedi drafftio Siarter Gofalwyr Di-dâl ar gyfer ein rhanbarth ac mae am sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn ystyrlon i ofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc di-dâl.   

Mae’r Siarter drafft yn seiliedig ar gyfres o sesiynau gyda gofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt, ar ôl gwrando ar eu profiadau a’r hyn sy’n bwysig iddynt.   

Mae’r Siarter yn amlinellu gweledigaeth ac ymrwymiadau’r bwrdd, y dywedodd gofalwyr di-dâl sydd eu hangen er mwyn eu cefnogi nawr ac, yn y dyfodol.   

Mae’r bwrdd eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl am y siarter a gallwch ei ddarllen yma: Y Siarter Gofalwyr Di-dâl a’r Siarter Gofalwyr Di-dâl Ifanc   

I ddweud eich dweud am y siarter, cymerwch ran yn yr arolwg ar-lein  hwn cyn dydd Gwener 29 Gorffennaf.  Rhannwch hefyd gydag unrhyw ofalwyr di-dâl rydych chi’n eu hadnabod a fyddai â diddordeb mewn cymryd rhan. 

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd