Neidio i’r cynnwys

Rhowch gynnig ar ein posteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof am ddim

Memory Tree

Mae Casgliad y Werin Cymru (CYW) wedi creu cyfres o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof sydd ar gael am ddim i unrhywun eu defnyddio.

Maent yn rhan o’r adnodd dysgu CYW, Archif Cof: Defnyddio Casgliad y Werin Cymru i Ddysgu am Ddementia, sy’n cynnig dau weithgaredd hel atgofion ymarferol y gall dysgwyr eu hymarfer yn yr ystafell ddosbarth neu o bell gan ddefnyddio’r Archif Cof: Creu Coeden Gof a Chreu Llinell Amser Cof.

Cyfrif wedi’i guraduro sy’n cynnwys 24 o gasgliadau wedi’u rhannu’n themâu a degawdau perthnasol (o fewn cof) sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru yw’r Archif Cof. Gellir defnyddio’r Archif Cof ar gyfer gwaith ‘hel atgofion syml’ ac ar gyfer gwaith ‘hanes bywyd’, sy’n edrych ar fywyd person penodol o ddydd ei eni hyd heddiw.

Gallwch yn awr ddewis ac argraffu delweddau o’r Casgliadau Archif Cof a’u hychwanegu at y poster o’ch dewis. Mae’r Goeden Gof wedi’i strwythuro yn ôl thema, ond mae’r Llinell Amser Cof yn gronolegol. Gallwch ychwanegu delweddau at y canghennau neu ar hyd y llinell amser sy’n cynrychioli atgofion pwysig o fywyd yr unigolyn.

Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn tanio atgofion ac yn ysgogi trafodaeth. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os ydynt – cysylltwch â ni: reina.vanderwiel@rcahmw.gov.uk.

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd