Neidio i’r cynnwys

Pecyn cymorth ‘Darllenwch Amdanaf I’ i ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd

Read about Me

Mae ‘Darllenwch Amdanaf I’ yn ffordd syml ac effeithiol newydd o gynorthwyo pobl â dementia neu nam gwybyddol sy’n derbyn gofal meddygol.

Cafodd y pecyn cymorth ei greu gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i annog cleifion i gynnig gwybodaeth sy’n benodol amdanyn nhw.

Mae’n rhoi gwell dealltwriaeth i staff o’r claf heb iddo orfod ailadrodd ei hanes personol, ac yn helpu i gynnal parhad gofal i’r claf drwy gydol ei daith.

Mae’n hawdd i ofalwyr ei gwblhau a gall cleifion fynd â’u pecyn ‘Darllenwch Amdanaf I’ gyda nhw lle bynnag y mae eu taith yn mynd â nhw yn yr ysbyty.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pecyn cymorth ‘Darllenwch Amdanaf I’ ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd