Neidio i’r cynnwys

Hybiau i Bawb

Mae Hybiau i Bawb yn wasanaeth gofal a lles cymunedol i bobl 60 oed a hŷn, ac ar gyfer seibiant gofalwyr di-dâl.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu o leoliadau Hyb cymunedol lleol, gan helpu pobl i aros yn actif, yn annibynnol ac yn gysylltiedig.

Mae Hybiau i Bawb yn rhedeg rhwng 10am a 4pm yn:

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Rydym yn cynnig cymorth ar gyfer:

  • pobl sydd salwch sy’n gysylltiedig ag oedran,
  • pobl sy’n profi ynysu cymdeithasol,
  • pobl yng nghyfnodau cynnar dementia, a
  • phobl ag anghenion cymorth lefel isel.

Gweithgareddau a lles

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • sesiynau cerddoriaeth,
  • gweithgaredd corfforol,
  • celf a chrefft, a
  • gweithgareddau digidol.

Mae cynnig lluniaeth ysgafn am ffi ddyddiol fach.

Cymorth i Ofalwyr Di-dâl

Mae croeso i fynychwyr gyda’u gofalwyr di-dâl neu hebddynt. Mae’r gwasanaeth yn rhoi amser i ofalwyr di-dâl iddyn nhw eu hunain, tra’n gwybod bod y person maen nhw’n gofalu amdano yn ddiogel ac yn cael ei gefnogi.

Mae gofalwyr di-dâl wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi:

  • cael gwasanaeth lleol yn eu cymuned,
  • cael amser iddyn nhw eu hunain, a
  • chael hyder yn y gofal a ddarperir.

Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth

Gallwch gyfeirio eich hun at Hybiau i Bawb. Croeso i alw heibio.

I ddechrau arni, gallwch:

Gallwch hefyd siarad â staff yn ystod un o’r sesiynau i gael rhagor o wybodaeth.

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd