Mae ein Hybiau Gofal yn darparu cymorth cymunedol i bobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda dementia, gan eu helpu i gadw’n egnïol a chysylltiedig. Trwy ofal personol, gweithgareddau cymdeithasol ac ymgysylltu ystyrlon, mae’r gwasanaeth yn cefnogi lles tra hefyd yn darparu cyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant.
Mae gennym ofalwyr hyfforddedig sy’n gallu cynorthwyo’r rhai sydd:
- yn byw gyda dementia.
- yn profi salwch sy’n gysylltiedig ag oedran,
- ag anabledd corfforol a/neu
- angen cymorth gydag agweddau ar fywyd bob dydd.
Lleoliadau
Mae Hybiau Gofal wedi’u lleoli yn:
- Heol Plasmawr, y Tyllgoed,
- Minehead Road (Llanrhymni),
- Y Rhodfa Fawr, Trelái.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
Rydym yn seilio ein gwasanaeth o’ch cwmpas trwy ddod i’ch adnabod chi, cefnogi gwybyddiaeth, darparu gweithgareddau grŵp ac unigol, addasu’r rhain i ddarparu ar gyfer pob gallu a darparu cymorth gyda gofal personol os oes angen. Rydym yn canolbwyntio ar gryfderau a chynnal annibyniaeth.
Mae ein staff hyfforddedig yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol, yn actif ac yn gysylltiedig.
Rydyn ni’n darparu:
- cymorth a gofal wedi’u teilwra,
- gweithgareddau grŵp sydd wedi’u cynllunio i weddu i anghenion gwahanol,
- cymorth gyda bywyd bob dydd,
- cyfleoedd i fagu hyder a chysylltiadau cymdeithasol, a
- seibiant i ofalwyr.
Rydym yn canolbwyntio ar gryfderau unigol ac yn cefnogi annibyniaeth lle bynnag y bo modd.
Gweithgareddau a chysylltiadau cymunedol
Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i gynnig gweithgareddau ystyrlon, gan gynnwys:
- therapi cerdd,
- sesiynau hel atgofion, a
- gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau.
Cefnogi pobl sydd â dementia
Mae holl wasanaethau Hyb Gofal yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ddementia.
Mae staff yn creu amgylcheddau diogel, croesawgar lle gall pobl:
- gysylltu â phobl eraill,
- aros yn ymgysylltu, a
- mwynhau gweithgareddau ystyrlon.
Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i gynnal eu lles ac ansawdd bywyd.
Amseroedd a phrydau bwyd
Mae Hybiau Gofal fel arfer yn rhedeg rhwng 8:30am a 4:30pm. Am dâl bach rydym yn darparu cinio tri chwrs a byrbrydau a diodydd trwy gydol y dydd, gellir addasu prydau i weddu i anghenion deietegol.
Trafnidiaeth
Gallwn drefnu trafnidiaeth i’r Hyb Gofal ac oddi yno.
Gallwch hefyd deithio’n annibynnol os yw’n well gennych.
Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth
Trwy atgyfeiriad ar ôl asesiad gan Wasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd. Gallwch ofyn am asesiad ar gyfer anghenion gofal a chymorth drwy ffonio’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol ar 02920 234 234.


