Neidio i’r cynnwys

Dod yn fusnes neu sefydliad sy’n Deall Dementia

Becoming a Dementia Friendly business or organisationv

Mae busnesau a sefydliadau ledled Caerdydd yn cael eu cefnogi i ddod yn rhai sy’n deall dementia, fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu cymunedau sy’n deall dementia ledled Cymru.

Bydd cynrychiolydd o’ch busnes neu sefydliad yn cael adnoddau i nodi rhai newidiadau syml, cost isel y gellir eu gwneud ar adeg sy’n addas i chi. Bydd gwneud newidiadau, waeth pa mor fach, yn golygu y bydd eich gwasanaethau a’ch safleoedd yn dod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia, a’r bobl hynny sy’n gofalu amdanynt.

Bydd hefyd yn golygu y gall pobl y mae dementia yn effeithio arnynt ddefnyddio eu gwasanaethau lleol – yn hyderus – a gallwch fod yn hyderus eich bod yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau eich cwsmeriaid sy’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, a hefyd i’ch staff.

Nid oes unrhyw gost ar gyfer dod yn fusnes neu sefydliad sy’n deall dementia, bydd eich staff yn cael cyfle i ddod yn Gyfeillion Dementia, a bydd eich gwasanaethau’n cael eu cydnabod yn y gymuned leol fel rhai croesawgar a hygyrch i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn fusnes neu sefydliad sy’n Deall Dementia, anfonwch e-bost at ingrid.patterson@mariecurie.org.uk

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd