Neidio i’r cynnwys

OLD Dewch yn Gyfaill Dementia heddiw

Become a Dementia Friend

Cyfaill dementia yw rhywun sy’n dysgu am ddementia er mwyn ei alluogi i helpu pobl yn ei gymuned.

Rhaglen Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer’s yw’r mudiad gweithredu cymdeithasol fwyaf i newid canfyddiadau pobl am ddementia.

Nod y rhaglen Cyfeillion Dementia yw creu cymunedau sy’n deall dementia drwy drawsnewid y ffordd y mae’r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn siarad am ddementia.

Mae’n ysbrydoli pobl i weithredu – nid oes unrhyw weithred yn rhy fawr nac yn rhy fach. O ymweld â rhywun rydych chi’n ei adnabod sydd â dementia i fod yn fwy amyneddgar yn y ciw mewn siop. Mae pob gweithred yn cyfrif.

Mae gormod o lawer o bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn teimlo nad yw cymdeithas yn deall eu cyflwr a’r effaith a gaiff ar ei bywydau.

 

Rydym eisiau gweld pawb sy’n byw â dementia yn teimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso i wneud y pethau y maen nhw wastad wedi gallu eu gwneud, fel prynu nwyddau neu fynd ar y bws.

Rydym ni’n creu Eiriolwyr Cyfeillion Dementia, sef gwirfoddolwyr sy’n cynnal Sesiynau Gwybodaeth o fewn eu rhwydweithiau a’u cymunedau eu hunain.

Gofynnir i bawb sy’n mynychu Sesiwn Wybodaeth i ymrwymo i gyflawni gweithred yn eu bywyd bob dydd a fydd yn helpu eu cymuned i ddeall dementia. Yna byddant yn dod yn Gyfaill Dementia.

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddod yn Gyfaill Dementia, ewch i’n gwefan Cyfeillion Dementia

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd