Cymerwch gamau i wneud eich busnes neu’ch sefydliad yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, gyda chydnabyddiaeth swyddogol.
Mae dod yn sefydliad sy’n Deall Dementia’n golygu:
- Cydnabod effaith dementia a sut mae’n newid anghenion cwsmeriaid
- Ystyried sut i gefnogi cwsmeriaid a chyflogeion y mae dementia yn effeithio arnynt yn well
- Meddu ar gynllun sylfaenol i gefnogi’r gwaith hwn
NID oes disgwyl i chi ddod yn sefydliad Deall Dementia o’r diwrnod cyntaf, nodi cwsmeriaid sydd â dementia na gofyn cwestiynau anodd i gwsmeriaid.
Pam dylai eich busnes neu sefydliad fod yn un Sy’n Deall Dementia?
- Cewch gydnabyddiaeth o’ch statws Busnes neu Sefydliad sy’n Deall Dementia ar ein gwefan
- Cewch gydnabyddiaeth swyddogol – Tystysgrif Deall Dementia a sticer ffenestr
- Byddwch yn cadw ac yn denu cwsmeriaid sy’n byw gyda dementia a’u gofalwr
- Bydd yn gwella enw da eich brand i ddangos eich bod yn gymdeithasol-gyfrifol
- Bydd eich staff yn fwy hyderus gyda chwsmeriaid sydd â dementia, gan ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid
Mae’n broses syml, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymrwymo i dri gweithred deall dementia. Ar ôl i chi ddechrau gweithio ar eich gweithred gyntaf byddwch yn derbyn eich tystysgrif Deall Dementia a sticer ffenestr.
Gallwn gefnogi eich busnes neu’ch sefydliad i fod yn Deall Dementia drwy:
- Nodi camau i’ch sefydliad fod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia
- Eich helpu i archwilio’ch amgylchedd ffisegol i wneud newidiadau neu welliannau i fod yn sefydliad sy’n Deall Dementia.
- Rhoi adnoddau gwybodaeth a chyngor i chi ar sut i gael eich cydnabod fel sefydliad Deall Dementia.
- Eich cyfeirio chi at sesiwn Ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia.
Cysylltwch â DeallDementia@caerdydd.gov.uk.am ragor o wybodaeth.
Busnesau a Sefydliadau sydd wedi addo dod yn rhai Sy’n Deall Dementia yng Nghaerdydd
Dysgwch ba fusnesau a sefydliadau sydd wedi cymryd camau i fod yn fwy croesawgar ac yn hygyrch i bobl sy’n byw â dementia, a’u gofalwyr: