Pwrpas y rôl a pham rydyn ni eich angen chi:
Rydym angen i chi helpu a chefnogi siopau, busnesau, a sefydliadau lleol ar draws y ddinas i ddod yn rhai sy’n Deall Dementia. Ceisiwch eu hannog i gymryd camau i fod yn fwy croesawgar, hygyrch a darparu gwell cefnogaeth i’w cleientiaid sy’n byw gyda dementia. Gall sefydliadau wneud gwahaniaeth mawr; nhw sydd ar y rheng flaen wrth ryngweithio â phobl sy’n byw gyda dementia yng Nghaerdydd.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud fel Cennad Deall Dementia:
- Galw heibio siopau, busnesau, a sefydliadau lleol yng Nghaerdydd i’w hannog i ddod yn rhai sy’n Deall Dementia, gan esbonio’r manteision a’r pwysigrwydd
- Helpu sefydliadau i nodi camau i ddod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy’n byw gyda dementia
- Helpu sefydliadau i archwilio eu hamgylchedd ffisegol i annog newidiadau neu welliannau i ddod yn amgylcheddau sy’n Deall Dementia
- Cefnogi sefydliadau gan roi adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar sut i gael eu cydnabod fel sefydliad sy’n Deall Dementia
- Helpu sefydliadau i dderbyn cydnabyddiaeth swyddogol – drwy’r logo ‘Gweithio i Ddeall Dementia’
- Cyfeirio sefydliadau at sesiynau Ffrindiau Dementia i’w staff
- Bwydo’n ôl unrhyw wybodaeth neu gwestiynau gan fusnesau a sefydliadau i’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr Deall Dementia.
Mae’r rôl wirfoddoli yn hyblyg a byddai’n addas i unrhyw un sy’n barod i gysylltu â’r gymuned ac yn angerddol dros wneud Caerdydd yn Ddinas sy’n Deall Dementia.
Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei gynnig drwy roi o’u hamser. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, cewch deimlad o berthyn hefyd ac fe gewch hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth briodol.
Sut i wneud cais:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes gennych ddiddordeb yn y rôl Cennad Deall Dementia cysylltwch â:
Chloe Gifford – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Deall Dementia
07855980955
dealldementia@caerdydd.gov.uk