Wrth i ni fynd yn hŷn mae’n bosibl y byddwn yn sylwi nad yw ein cof cystal ag yr arferai fod.
Rhai problemau cyffredin gyda’r cof:
- Anhawster cofio enwau neu sgyrsiau,
- Colli pethau,
- Anghofio’r hyn yr oeddem ar fin ei wneud.
Mae rhai pobl yn ystyried bod problemau o’r fath yn rhan arferol o heneiddio. Mae’n bosibl y bydd rhai eraill yn poeni eu bod yn datblygu cyflwr mwy difrifol fel Demensia.
Dylech sôn am hyn wrth eich meddyg a bydd yn cynnal profion cof ffurfiol i weld sut mae eich cof. Os yw eich canlyniadau ychydig yn waeth na’r disgwyl ar gyfer eich oedran, efallai y bydd meddyg yn diagnosio ‘nam gwybyddol ysgafn’ ac yn cynnig eich gweld eto yn y dyfodol.
Yn ffodus, eithriad yn hytrach na’r arfer yw problemau mwy difrifol gyda’r cof.
Mae’n syniad da i unrhyw un sy’n poeni am ei gof gael gwiriad gyda’i feddyg teulu.