Mae rhoi cwtshys wir yn gwneud gwahaniaeth, maen nhw’n ein helpu i ymdopi’n well â bywyd, yn rhoi cysur i ni ac yn gwneud i ni deimlo’n llai pryderus.
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at faint y mae arnom angen cyswllt cymdeithasol a faint yr ydym yn colli gallu rhoi a derbyn cwtsh.
Beth yw HUG™?
Gwrthrych rhyngweithiol i’w gofleidio yw HUG™ sy’n cynnwys modiwl electronig sy’n efelychu calon yn curo ac sy’n gallu chwarae cerddoriaeth. Mae’n darparu rhywbeth ffisegol sy’n ymddangos fel pe bai’n llenwi angen dynol pwysig.
Mae ymchwilwyr LAUGH (Ludic Artefacts Using Gesture and Haptics) wedi datblygu’r cynnyrch arobryn i bobl sy’n byw gyda dementia dwys.
Dyluniodd yr Athro Cathy Treadaway a’i thîm o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yr HUG™ ar gyfer menyw oedd yn cael gofal diwedd oes mewn cartref gofal preswyl yng Nghymru. Roedd wedi encilio, yn cwympo’n aml, ac roedd yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn y gwely.