Nid yw cof unrhyw un yn berffaith, ond gall rhai cyflyrau meddygol achosi mwy o anhawster gyda’r cof nag sy’n arferol.
Mae atgofion byrdymor (newydd) yn fwy tebygol o ddioddef nag atgofion hirdymor (hen). Efallai na fydd rhywun yn cofio rhywbeth a ddigwyddodd y bore hwnnw ond bydd yn cofio’n glir rywbeth a ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl.
Mae pobl yn tueddu i anghofio pethau bob dydd sy’n gymharol ddibwys, fel postio llythyrau neu amser apwyntiadau.
Mae pryder a straen yn effeithio ar y cof, felly gall pryderu wneud cofio’n anoddach fyth.
Anaml y bydd ceisio ‘ymarfer’ y cof drwy osod profion cof i chi’ch hun yn ddefnyddiol. Mae’n well cadw eich ymennydd yn weithgar trwy barhau i wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau.