Os ydych wedi cael eich cyfeirio at Glinig Cof, byddai’n ddefnyddiol i berthynas neu ffrind fynd gyda chi i helpu gydag unrhyw gwestiynau am hanes eich cefndir ac i’ch cefnogi yn ystod yr apwyntiad. Dewch â rhestr o’ch meddyginiaethau rheolaidd, cymhorthion clyw a/neu sbectol os ydych fel arfer yn eu gwisgo. Mae’r apwyntiad fel arfer yn para rhwng 45 munud i awr.
Yn ystod yr apwyntiad, byddwn yn cynnal rhai asesiadau i’n helpu i ddeall unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu profi. Efallai y bydd angen i chi gael profion pellach i chwilio am broblemau meddygol sylfaenol.
Bydd y tîm yn trafod diagnosis tebygol gyda chi ac yn rhoi rhywfaint o gyngor a chymorth dilynol.
Bydd y tîm yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ganfyddiadau ac, os rhoddir caniatâd, gallant roi gwybod i’ch teulu a’ch meddyg teulu.
Mae’r gwasanaeth yn rhoi cymorth i bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol. Gallwn ddarparu cyfieithydd i’ch helpu i gyfathrebu â ni os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf. Gallwn addasu ein hasesiadau i ddiwallu eich anghenion.