Neidio i’r cynnwys

Y Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf (PCC)

Mae’r Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i oedolion, gan eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a chadw mewn cysylltiad â’u cymunedau.

Prif ffocws eu gwaith yw atal ac ymyrraeth gynnar, gan sicrhau y gallwch gael mynediad i’r cymorth cywir ar yr adeg iawn.

Mae’r Tîm PCC yn rhoi yr amser i gael sgyrsiau “Beth Sy’n Bwysig”, gan ganolbwyntio ar:

  • Beth sy’n bwysig i chi
  • eich cryfderau
  • y canlyniadau yr hoffech eu cyflawni
  • deall eich amgylchiadau
  • nodi eich nodau personol
  • archwilio’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu chi i fyw’n annibynnol, yn ddiogel ac mor dda â phosibl.

Mae PCC yn gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid i hyrwyddo annibyniaeth a lles, gan gynnwys:

  • gwasanaethau iechyd
  • sefydliadau trydydd sector
  • darparwyr tai
  • gwasanaethau cymorth yn y gymuned.

Lle bynnag y bo modd, bydd PCC yn archwilio atebion cymunedol ac ataliol yn gyntaf i’ch helpu i gyflawni eich nodau a chynnal eich annibyniaeth. Gallai hyn gynnwys:

  • cymorth megis cymhorthion ac addasiadau
  • gwasanaeth atal cwympiadau
  • cyngor ar fudd-daliadau a hawliau lles
  • grwpiau cymunedol
  • gwasanaethau lles
  • ac adnoddau lleol eraill a all wella ansawdd eich bywyd.

Mae PCC yn cydnabod bod y canlyniadau gorau yn aml yn cael eu cyflawni trwy adeiladu ar eich cryfderau presennol, rhwydweithiau cefnogi, a chysylltiadau o fewn eich cymuned. Os na ellir diwallu eich anghenion trwy gymorth cymunedol yn unig, bydd PCC yn cyfeirio at y tîm Gofal Cymdeithasol Oedolion mwyaf priodol i asesu ac ystyried unrhyw anghenion gofal a chymorth parhaus.

Nod PCC yw darparu ymateb amserol, sy’n canolbwyntio ar y person sy’n eich helpu i ddod o hyd i atebion, gwneud y mwyaf o’ch annibyniaeth, a chyflawni’r canlyniadau sy’n bwysicaf i chi.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â’r Tîm y Pwynt Cyswllt Cyntaf (PCC) ar:

029 2023 4234

Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 5pm
Dydd Gwener: 8.30am – 4.30pm

Neu dilynwch y ddolen hon i e-bostio: Ynglŷn â Gwasanaethau Byw’n Annibynnol – Ffurflenni Cyngor Caerdydd

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd