Mae ein Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned yn cefnogi pobl 60 oed a hŷn i gadw’n annibynnol ac yn gysylltiedig â’u cymunedau.
Rydym yn gweithio gyda phobl a allai fod yn gymdeithasol ynysig, ag anabledd corfforol, neu sy’n byw gyda chyflwr sy’n gysylltiedig ag oedran, fel dementia.
Mae’r gefnogaeth yn fyrdymor ac yn canolbwyntio ar helpu pobl i fagu hyder ac adennill annibyniaeth.
Os yw’r tîm yn nodi bod angen cymorth tymor hwy, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at wasanaethau fel gwaith cymdeithasol neu therapi galwedigaethol.
Sut rydym yn eich cefnogi chi
Yn gyntaf, byddwn yn cwrdd â chi yn eich cartref i ddeall beth sy’n bwysig i chi a’r hyn yr hoffech ei gyflawni.
Yna, gallwn eich helpu i:
- ailgysylltu â’ch cymuned leol,
- datblygu eich sgiliau a’ch hyder, a
- chyrraedd ardaloedd lleol, grwpiau a gweithgareddau yn ddiogel.
Mae’r gefnogaeth wedi’i bersonoli ac yn seiliedig ar eich anghenion a’ch nodau unigol.
Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae’r Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned yn helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau a chyfleoedd yn eu hardal leol.
Gall hyn gynnwys:
- ymuno â grwpiau cymdeithasol,
- cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, a
- datblygu diddordebau newydd.
Y nod yw eich helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig a hyderus ym mywyd bob dydd.
Ymgysylltu Digidol
Gallwn gynnig gwasanaeth digidol i’ch helpu i gael a defnyddio technoleg gartref, gyda hyd at chwe sesiwn gymorth i fagu eich hyder a’ch helpu i ailgysylltu â grwpiau a gweithgareddau lleol.
Sut mae cael mynediad at y gwasanaeth
Gallwch gyfeirio eich hun at y Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned.
Gallwch gysylltu a ni drwy:
- ffonio 029 2023 4272, neu e-bostio TimCyfleoeddDydd@caerdydd.gov.uk.


