Neidio i’r cynnwys

Wythnos Gweithredu ar Ddementia (18 – 24 Mai) ac Apêl Forget Me Not ym mis Mehefin

Yn ystod y cyfnod hwn mae’r Gymdeithas Alzheimer’s yn ceisio ysbrydoli miloedd yn fwy o bobl i ddysgu am ddementia ac maen nhw wedi llunio rhestr wirio ar gyfer symptomau dementia posibl.

 

Rhestr Wirio Symptomau Dementia’r Gymdeithas Alzheimer’s

Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi llunio rhestr wirio ar gyfer symptomau dementia posibl. Gellir defnyddio’r offeryn am ddim hwn i nodi unrhyw anawsterau rydych chi wedi’u cael a’ch helpu i drafod eich pryderon gyda meddyg teulu, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu unigolyn dibynadwy.

Nid yw’n offeryn diagnosis ac nid yw cael y symptomau hyn yn golygu eich bod chi’n datblygu dementia. Mae pawb yn profi dementia yn eu ffordd eu hunain. Mae’r rhestr wirio hon yn cynnwys arwyddion cyffredin o ddementia, ond gall fod rhesymau eraill dros unrhyw newidiadau rydych chi wedi sylwi arnyn nhw.

Mae’r rhestr wirio yn cynnwys 20 cwestiwn am symptomau neu ymddygiadau posibl sy’n ymwneud â dementia. Bydd angen i chi feddwl am:

  • y symptomau y mae pob cwestiwn yn eu disgrifio
  • pa mor hir maen nhw wedi bod yn digwydd
  • faint maen nhw’n effeithio ar fywyd bob dydd

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen hon ar ran rhywun arall, atebwch y cwestiynau o’u persbectif nhw.

I weld y Rhestr Wirio Symptomau Dementia, dilynwch y ddolen hon: Rhestr Wirio Symptomau

© Caerdydd sy’n Deall Dementia - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd