Oeddech chi’n gwybod?
- Nid yw mynd yn hŷn yn golygu y byddwch yn cael dementia.
- Ni fyddwch o reidrwydd yn cael dementia oherwydd bod aelod o’r teulu wedi’i gael.
- Gallwch gymryd camau i leihau’ch risg o ddatblygu dementia.
- Nid yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i gymryd y camau hynny.
Er bod rhai ffactorau risg nad oes modd eu newid, y newyddion da yw bod ymchwil yn dangos ei bod yn bosibl lleihau eich tebygolrwydd o ddatblygu dementia. Mae hyn yn golygu gwneud rhai newidiadau i helpu i gadw’ch corff yn iach ac atal niwed i’ch ymennydd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i bobl o bob oedran.
Rhai o’r newidiadau allweddol i’ch ffordd o fyw a all helpu i leihau’ch risg o ddatblygu dementia yw:
- Gofalwch am eich cly
- Rhowch y gorau i ysmygu
- Gofalwch am eich iechyd meddwl
- Cadwch mewn cysylltiad ag eraill ac ymgysylltu eich ymennydd
- Diogelwch eich pen
- Cadwch olwg ar eich pwysedd gwaed
- Symud mwy ac yn fwy aml
- Lleihewch eich risg o gael diabetes math 2
- Cyfyngwch yr alcohol yr ydych yn ei yfed
- Cadwch bwysau iach
- Gallach am eich llygaid